Ioan 3:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. y mae'n tystiolaethu am yr hyn a welodd ac a glywodd, ond nid yw neb yn derbyn ei dystiolaeth.

33. Y mae'r sawl sydd yn derbyn ei dystiolaeth yn rhoi ei sêl ar fod Duw yn eirwir.

34. Oherwydd y mae'r hwn a anfonodd Duw yn llefaru geiriau Duw; nid wrth fesur y bydd Duw yn rhoi'r Ysbryd.

35. Y mae'r Tad yn caru'r Mab, ac y mae wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef.

36. Pwy bynnag sy'n credu yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy'n anufudd i'r Mab, ni wêl fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.

Ioan 3