Ioan 20:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yna daeth Simon Pedr ar ei ôl, a mynd i mewn i'r bedd. Gwelodd y llieiniau yn gorwedd yno,

7. a hefyd y cadach oedd wedi bod am ei ben ef; nid oedd hwn yn gorwedd gyda'r llieiniau, ond ar wahân, wedi ei blygu ynghyd.

8. Yna aeth y disgybl arall, y cyntaf i ddod at y bedd, yntau i mewn. Gwelodd, ac fe gredodd.

9. Oherwydd nid oeddent eto wedi deall yr hyn a ddywed yr Ysgrythur, fod yn rhaid iddo atgyfodi oddi wrth y meirw.

Ioan 20