Ioan 20:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Yna meddai wrth Thomas, “Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a'i rhoi yn fy ystlys. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun.”

28. Atebodd Thomas ef, “Fy Arglwydd a'm Duw!”

29. Dywedodd Iesu wrtho, “Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld.”

30. Yr oedd llawer o arwyddion eraill, yn wir, a wnaeth Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, nad ydynt wedi eu cofnodi yn y llyfr hwn.

31. Ond y mae'r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu mai Iesu yw'r Meseia, Mab Duw, ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bywyd yn ei enw ef.

Ioan 20