Ioan 2:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea, ac yr oedd mam Iesu yno.

2. Gwahoddwyd Iesu hefyd, a'i ddisgyblion, i'r briodas.

3. Pallodd y gwin, ac meddai mam Iesu wrtho ef, “Nid oes ganddynt win.”

4. Dywedodd Iesu wrthi hi, “Wraig, beth sydd a fynni di â mi? Nid yw f'awr i wedi dod eto.”

5. Dywedodd ei fam wrth y gwasanaethyddion, “Gwnewch beth bynnag a ddywed wrthych.”

Ioan 2