5. Atebasant ef, “Iesu o Nasareth.” “Myfi yw,” meddai yntau wrthynt. Ac yr oedd Jwdas, ei fradychwr, yn sefyll yno gyda hwy.
6. Pan ddywedodd Iesu wrthynt, “Myfi yw”, ciliasant yn ôl a syrthio i'r llawr.
7. Felly gofynnodd iddynt eilwaith, “Pwy yr ydych yn ei geisio?” “Iesu o Nasareth,” meddent hwythau.
8. Atebodd Iesu, “Dywedais wrthych mai myfi yw. Os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhain fynd.”
9. Felly cyflawnwyd y gair yr oedd wedi ei lefaru: “Ni chollais yr un o'r rhai a roddaist imi.”
10. Yna tynnodd Simon Pedr y cleddyf oedd ganddo, a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd. Enw'r gwas oedd Malchus.