Ioan 17:25-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. O Dad cyfiawn, nid yw'r byd yn dy adnabod, ond yr wyf fi'n dy adnabod, ac y mae'r rhain yn gwybod mai tydi a'm hanfonodd i.

26. Yr wyf wedi gwneud dy enw di yn hysbys iddynt, ac fe wnaf hynny eto, er mwyn i'r cariad â'r hwn yr wyt wedi fy ngharu i fod ynddynt hwy, ac i minnau fod ynddynt hwy.”

Ioan 17