29. Yr wyf fi wedi dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu pan ddigwydd.
30. Ni byddaf yn siarad llawer gyda chwi eto, oherwydd y mae tywysog y byd hwn yn dod. Nid oes ganddo ddim gafael arnaf fi,
31. ond rhaid i'r byd wybod fy mod i'n caru'r Tad ac yn gwneud yn union fel y mae'r Tad wedi gorchymyn imi. Codwch, ac awn oddi yma.