Ioan 12:18-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Dyna pam yr aeth tyrfa'r ŵyl i'w gyfarfod—yr oeddent wedi clywed am yr arwydd yma yr oedd wedi ei wneud.

19. Gan hynny, dywedodd y Phariseaid wrth ei gilydd, “Edrychwch, nid ydych yn llwyddo o gwbl. Aeth y byd i gyd ar ei ôl ef.”

20. Ymhlith y bobl oedd yn dod i fyny i addoli ar yr ŵyl, yr oedd rhyw Roegiaid.

21. Daeth y rhain at Philip, a oedd o Bethsaida yng Ngalilea, a gofyn iddo, “Syr, fe hoffem weld Iesu.”

22. Aeth Philip i ddweud wrth Andreas; ac aeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu.

23. A dyma Iesu'n eu hateb. “Y mae'r awr wedi dod,” meddai, “i Fab y Dyn gael ei ogoneddu.

24. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth.

25. Y mae'r sawl sy'n caru ei einioes yn ei cholli; a'r sawl sy'n casáu ei einioes yn y byd hwn, bydd yn ei chadw i fywyd tragwyddol.

26. Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad.

27. “Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf. Beth a ddywedaf? ‘O Dad, gwared fi rhag yr awr hon’? Na, i'r diben hwn y deuthum i'r awr hon.

28. O Dad, gogonedda dy enw.” Yna daeth llais o'r nef: “Yr wyf wedi ei ogoneddu, ac fe'i gogoneddaf eto.”

29. Pan glywodd y dyrfa oedd yn sefyll gerllaw, dechreusant ddweud mai taran oedd; dywedodd eraill, “Angel sydd wedi llefaru wrtho.”

30. Atebodd Iesu, “Nid er fy mwyn i, ond er eich mwyn chwi, y daeth y llais hwn.

31. Dyma awr barnu'r byd hwn; yn awr y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan.

Ioan 12