Ioan 11:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ond at ei farwolaeth ef yr oedd Iesu wedi cyfeirio, a hwythau'n meddwl mai siarad am hun cwsg yr oedd.

14. Felly dywedodd Iesu wrthynt yn blaen, “Y mae Lasarus wedi marw.

15. Ac er eich mwyn chwi yr wyf yn falch nad oeddwn yno, er mwyn ichwi gredu. Ond gadewch inni fynd ato.”

16. Ac meddai Thomas, a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, “Gadewch i ninnau fynd hefyd, i farw gydag ef.”

Ioan 11