Ioan 1:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yr oeddent wedi eu hanfon gan y Phariseaid,

25. a holasant ef a gofyn iddo, “Pam, ynteu, yr wyt yn bedyddio, os nad wyt ti na'r Meseia nac Elias na'r Proffwyd?”

26. Atebodd Ioan hwy: “Yr wyf fi'n bedyddio â dŵr, ond y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych chwi'n ei adnabod,

27. yr un sy'n dod ar f'ôl i, nad wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandal.”

28. Digwyddodd hyn ym Methania, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle'r oedd Ioan yn bedyddio.

Ioan 1