Ioan 1:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Dyma dystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid ato i ofyn iddo, “Pwy wyt ti?”

20. Addefodd ac ni wadodd, a dyma a addefodd: “Nid myfi yw'r Meseia.”

21. Yna gofynasant iddo: “Beth, ynteu? Ai ti yw Elias?” “Nage,” meddai. “Ai ti yw'r Proffwyd?” “Nage,” atebodd eto.

22. Ar hynny dywedasant wrtho, “Pwy wyt ti? Rhaid i ni roi ateb i'r rhai a'n hanfonodd ni. Beth sydd gennyt i'w ddweud amdanat dy hun?”

Ioan 1