1. Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair.
2. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw.
3. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod.
4. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd.