Hosea 9:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. “Yn Gilgal y mae eu holl ddrygioni;yno'n wir y rhois fy nghas arnynt.Oherwydd eu gweithredoedd drygionus,gyrraf hwy allan o'm tŷ.Ni charaf hwy ychwaneg;gwrthryfelwyr yw eu holl dywysogion.

16. “Trawyd Effraim.Sychodd eu gwraidd;ni ddygant ffrwyth.Er iddynt eni plant,lladdaf anwyliaid eu crothau.”

17. Bydd fy Nuw yn eu gwrthod,am iddynt beidio â gwrando arno;byddant yn grwydriaid ymysg y cenhedloedd.

Hosea 9