Hosea 7:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Pan ddymunaf adfer llwyddiant fy mhobl ac iacháu Israel,datguddir camwedd Effraim a drygioni Samaria,oherwydd y maent yn ymddwyn yn ffals;y mae lleidr yn torri i mewn, ysbeiliwr yn anrheithio ar y stryd.

2. Nid ydynt yn ystyried fy mod yn cofio'u holl ddrygioni;y mae eu gweithredoedd yn gylch o'u cwmpas,y maent yn awr ger fy mron.

Hosea 7