Hosea 5:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. “Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau,aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr;ond ni all ef eich gwella na'ch iacháu o'ch doluriau.

14. Oherwydd yr wyf fi fel llew i Effraim, ac fel llew ifanc i dŷ Jwda;myfi, ie myfi, a larpiaf, ac af ymaith; cipiaf, ac ni bydd gwaredydd.

15. “Dychwelaf drachefn i'm lle, nes iddynt weld eu bai,a chwilio amdanaf, a'm ceisio yn eu hadfyd.”

Hosea 5