Hosea 4:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yr wyt yn baglu liw dydd,a syrth y proffwyd hefyd gyda thi yn y nos.Dinistriaf dy fam;

6. difethir fy mhobl o eisiau gwybodaeth;am i ti wrthod gwybodaeth y gwrthodaf di yn offeiriad imi;am i ti anghofio cyfraith dy Dduw yr anghofiaf finnau dy blant.

7. “Fel yr amlhânt, mwy y pechant yn f'erbyn;trof eu gogoniant yn warth.

8. Bwytânt bechod fy mhobl,ac estyn eu safn at eu drygioni.

9. Bydd y bobl fel yr offeiriad;fe'u cosbaf am eu ffyrdd a dial arnynt am eu gweithredoedd.

10. Bwytânt, ond heb eu digoni,puteiniant, ond heb amlhau,am iddynt ddiystyru yr ARGLWYDD.

11. “Y mae puteindra, gwin a gwin newyddyn dwyn ymaith y deall.

Hosea 4