6. am hynny, caeaf ei ffordd â drain,a gosodaf rwystr rhag iddi gael ei llwybrau.
7. Fe ymlid ei chariadon heb eu dal,fe'u cais heb eu cael;yna dywed, ‘Dychwelaf at y gŵr oedd gennyf,gan ei bod yn well arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.’
8. Ond ni ŵyr hi mai myfi a roddodd iddi ŷd a gwin ac olew,ac amlhau iddi arian ac aur, pethau a roesant hwy i Baal.
9. Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor;dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni.