Hosea 14:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw,canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni.

2. Cymerwch eiriau gyda chwi,a dychwelwch at yr ARGLWYDD;dywedwch wrtho, “Maddau'r holl ddrygioni,derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth ein gwefusau.

3. Ni all Asyria ein hachub,ac ni farchogwn ar geffylau;ac wrth waith ein dwyloni ddywedwn eto, ‘Ein Duw’.Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.”

4. “Iachâf eu hanffyddlondeb;fe'u caraf o'm bodd,oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt.

Hosea 14