Hosea 12:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae Effraim yn bugeilio gwynt,ac yn dilyn gwynt y dwyrain trwy'r dydd;amlhânt dwyll a thrais;gwnânt gytundeb ag Asyria,a dygant olew i'r Aifft.

2. Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn Jwda;fe gosba Jacob yn ôl ei ffyrdd,a thalu iddo yn ôl ei weithredoedd.

3. Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd,ac wedi iddo dyfu ymdrechodd â Duw.

Hosea 12