Hebreaid 13:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, “Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.”

6. Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus:“Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr,ac nid ofnaf;beth a wna pobl i mi?”

7. Cadwch mewn cof eich arweinwyr, y rhai a lefarodd air Duw wrthych; myfyriwch ar ganlyniad eu buchedd, ac efelychwch eu ffydd.

8. Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth.

9. Peidiwch â chymryd eich camarwain gan athrawiaethau amrywiol a dieithr; oherwydd da yw i'r galon gael ei chadarnhau gan ras, ac nid gan fwydydd na fuont o unrhyw les i'r rhai oedd yn ymwneud â hwy.

10. Y mae gennym ni allor nad oes gan wasanaethwyr y tabernacl ddim hawl i fwyta ohoni.

Hebreaid 13