Hebreaid 12:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Oherwydd nid ydych chwi wedi dod at ddim y gellir ei gyffwrdd, at dân sydd yn llosgi, at gaddug a thywyllwch a thymestl,

19. at floedd utgorn, a llef yn rhoi gorchymyn nes i'r rhai a'i clywodd ymbil am i'r llefaru beidio,

20. am na allent oddef y gorchymyn: “Os bydd anifail, hyd yn oed, yn cyffwrdd â'r mynydd, rhaid ei labyddio.”

21. A chan mor ofnadwy oedd yr olygfa, dywedodd Moses, “Y mae arnaf arswyd a chryndod.”

22. Ond at Fynydd Seion yr ydych chwi wedi dod, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol; ac at fyrddiynau o angylion

Hebreaid 12