Hebreaid 10:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da,

25. heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.

26. Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach;

27. dim ond rhyw ddisgwyl brawychus am farn, ac angerdd tân a fydd yn difa'r gwrthwynebwyr.

Hebreaid 10