Haggai 1:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. A daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai:

4. “Ai amser yw i chwi eich hunain fyw yn eich tai moethus, a'r tŷ hwn yn adfeilion?”

5. Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Ystyriwch eich cyflwr.

6. Hauasoch lawer, ond medi ychydig; yr ydych yn bwyta, ond heb gael digon; yr ydych yn yfed, ond heb eich llenwi byth; yr ydych yn ymwisgo, ond heb fod yn gynnes byth; y mae'r sawl sy'n ennill cyflog yn ei gadw mewn cod dyllog.”

7. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Ystyriwch eich cyflwr.

8. Ewch i'r mynydd, torrwch goed i adeiladu'r tŷ, i mi gael ymhyfrydu ynddo a chael anrhydedd,” medd yr ARGLWYDD.

9. “Yr ydych yn edrych am lawer, ond yn cael ychydig; pan ddygwch y cynhaeaf adref, yr wyf yn chwythu arno. Pam?” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Am fod fy nhŷ yn adfeilion, a chwithau bob un ohonoch â thŷ i fynd iddo.

10. Dyna pam yr ataliodd y nefoedd y gwlith ac y cadwodd y ddaear ei ffrwyth,

Haggai 1