Habacuc 3:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD?A yw dy lid yn erbyn yr afonydd,a'th ddicter at y môr?Pan wyt yn marchogaeth dy feircha'th gerbydau i fuddugoliaeth,

9. y mae dy fwa wedi ei ddarparua'r saethau'n barod i'r llinyn.SelaYr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd;

10. pan wêl y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir.Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen;tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel.

11. Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle,rhag fflachiau dy saethau cyflym,rhag llewyrch dy waywffon ddisglair.

Habacuc 3