Genesis 9:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ond peidiwch â bwyta cig â'i einioes, sef ei waed, ynddo.

5. Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes; mynnaf ef gan bob bwystfil a chan bobl; ie, mynnaf iawn am fywyd y sawl a leddir gan arall.

6. “A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau;oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.

7. Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch,epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi.”

8. Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud,

9. “Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod â chwi ac â'ch had ar eich ôl,

10. ac â phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch.

Genesis 9