Genesis 8:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.

5. Ciliodd y dyfroedd yn raddol hyd y degfed mis; ac yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth pennau'r mynyddoedd i'r golwg.

6. Ymhen deugain diwrnod agorodd Noa y ffenestr yr oedd wedi ei gwneud yn yr arch,

7. ac anfon allan gigfran i weld a oedd y dyfroedd wedi treio, ac aeth hithau yma ac acw nes i'r dyfroedd sychu oddi ar y ddaear.

8. Yna gollyngodd golomen i weld a oedd y dyfroedd wedi treio oddi ar wyneb y tir;

Genesis 8