Genesis 7:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. a daethant i mewn ato i'r arch bob yn ddau, yn wryw a benyw, fel y gorchmynnodd Duw i Noa.

10. Ymhen saith diwrnod daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.

11. Yn y chwe chanfed flwyddyn o oes Noa, yn yr ail fis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, y diwrnod hwnnw rhwygwyd holl ffynhonnau'r dyfnder mawr ac agorwyd ffenestri'r nefoedd,

12. fel y bu'n glawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos.

Genesis 7