Genesis 6:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. bu edifar gan yr ARGLWYDD iddo wneud dyn ar y ddaear, a gofidiodd yn fawr.

7. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Dileaf oddi ar wyneb y ddaear y bobl a greais, ie, dyn ac anifail, ymlusgiaid ac adar yr awyr, oherwydd y mae'n edifar gennyf imi eu gwneud.”

8. Ond cafodd Noa ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

9. Dyma genedlaethau Noa. Gŵr cyfiawn oedd Noa, perffaith yn ei oes; a rhodiodd Noa gyda Duw.

10. Yr oedd Noa'n dad i dri o feibion: Sem, Cham a Jaffeth.

11. Aeth y ddaear yn llygredig gerbron Duw, ac yn llawn trais.

Genesis 6