Genesis 49:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. yr ogof sydd ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yng ngwlad Canaan. Prynodd Abraham hi gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.

31. Yno y claddwyd Abraham a'i wraig Sara; yno y claddwyd Isaac a'i wraig Rebeca, ac yno y cleddais i Lea.

32. Cafwyd hawl ar y maes a'r ogof sydd ynddo gan yr Hethiaid.”

33. Wedi i Jacob orffen rhoi ei orchymyn i'w feibion, tynnodd ei draed ato i'r gwely, bu farw, a chasglwyd ef at ei bobl.

Genesis 49