Genesis 49:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. “Bydd Dan yn barnu ei boblfel un o lwythau Israel.

17. Bydd Dan yn sarff ar y ffordd,ac yn neidr ar y llwybr,yn brathu sodlau'r marchnes i'r marchog syrthio yn wysg ei gefn.

18. “Disgwyliaf am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD!

19. “Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid,ond bydd ef yn eu hymlid hwy.

20. “Aser, bras fydd ei fwyd,ac fe rydd ddanteithion gweddus i frenin.

21. “Y mae Nafftali yn dderwen ganghennog,yn lledu brigau teg.

22. “Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon,cangen ffrwythlon wrth ffynnon,a'i cheinciau'n dringo dros y mur.

Genesis 49