Genesis 46:19-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Meibion Rachel gwraig Jacob: Joseff a Benjamin.

20. Ac i Joseff yn yr Aifft ganwyd Manasse ac Effraim, meibion Asnath, merch Potiffera offeiriad On.

21. Meibion Benjamin: Bela, Becher, Asbel, Gera, Naaman, Ehi, Ros, Muppim, Huppim ac Ard.

22. Dyna feibion Rachel, pedwar ar ddeg i gyd, wedi eu geni i Jacob.

23. Mab Dan: Husim.

24. Meibion Nafftali: Jahseel, Guni, Jeser a Silem.

25. Dyma feibion Bilha, a roddodd Laban i Rachel ei ferch, saith i gyd, wedi eu geni i Jacob.

26. Chwe deg a chwech oedd nifer tylwyth Jacob ei hun, sef pawb a ddaeth gydag ef i'r Aifft, heb gyfrif gwragedd ei feibion.

Genesis 46