9. Ewch ar frys at fy nhad a dywedwch wrtho, ‘Dyma y mae dy fab Joseff yn ei ddweud: “Y mae Duw wedi fy ngwneud yn arglwydd ar yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr ataf, paid ag oedi dim.
10. Cei fyw yn f'ymyl yng ngwlad Gosen gyda'th blant a'th wyrion, dy ddefaid a'th wartheg, a'th holl eiddo;
11. a chynhaliaf di yno, rhag i ti na neb o'th dylwyth fynd yn dlawd, oherwydd fe fydd eto bum mlynedd o newyn.” ’
12. Yn awr yr ydych chwi a'm brawd Benjamin yn llygad-dystion mai myfi'n wir sy'n siarad â chwi.
13. Rhaid ichwi ddweud wrth fy nhad am yr holl anrhydedd yr wyf wedi ei gael yn yr Aifft, ac am bopeth yr ydych wedi ei weld. Ewch ar unwaith, a dewch â'm tad i lawr yma.”
14. Yna rhoes ei freichiau am wddf ei frawd Benjamin ac wylo; ac wylodd Benjamin ar ei ysgwydd yntau.