Genesis 45:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Dywedasant wrtho, “Y mae Joseff yn dal yn fyw, ac ef yw llywodraethwr holl wlad yr Aifft.” Aeth yntau yn wan drwyddo, oherwydd nid oedd yn eu credu.

27. Ond pan adroddasant iddo holl eiriau Joseff, fel y dywedodd ef wrthynt, a phan welodd y wageni yr oedd Joseff wedi eu hanfon i'w gludo, adfywiodd ysbryd eu tad Jacob.

28. A dywedodd Israel, “Dyma ddigon, y mae fy mab Joseff yn dal yn fyw. Af finnau i'w weld cyn marw.”

Genesis 45