Genesis 44:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Dywedaist tithau wrth dy weision, ‘Os na ddaw eich brawd ieuengaf gyda chwi, ni chewch weld fy wyneb i eto.’

24. Aethom yn ôl at dy was ein tad, ac adrodd wrtho eiriau f'arglwydd.

25. A phan ddywedodd ein tad, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni’,

26. atebasom, ‘Ni allwn fynd. Fe awn os daw ein brawd ieuengaf gyda ni, ond ni chawn weld wyneb y dyn os na fydd ef gyda ni.’

27. A dywedodd dy was ein tad wrthym, ‘Gwyddoch i'm gwraig esgor ar ddau fab;

28. aeth un ymaith a dywedais, “Rhaid ei fod wedi ei larpio”, ac ni welais ef wedyn.

Genesis 44