Genesis 37:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion.”

21. Ond pan glywodd Reuben, achubodd ef o'u gafael a dweud, “Peidiwn â'i ladd.”

22. Dywedodd Reuben wrthynt, “Peidiwch â thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo.” Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn ôl at ei dad.

23. A phan ddaeth Joseff at ei frodyr, tynasant ei wisg oddi arno, y wisg laes yr oedd yn ei gwisgo,

24. a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddŵr ynddo.

Genesis 37