Genesis 37:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. A dywedodd Israel wrth Joseff, “Onid yw dy frodyr yn bugeilio ger Sichem? Tyrd, fe'th anfonaf di atynt.” Atebodd yntau, “o'r gorau.”

14. Yna dywedodd wrtho, “Dos i weld sut y mae dy frodyr a'r praidd, a thyrd â gair yn ôl i mi.” Felly anfonodd ef o ddyffryn Hebron, ac aeth tua Sichem.

15. Cyfarfu gŵr ag ef pan oedd yn crwydro yn y fro, a gofyn iddo, “Beth wyt ti'n ei geisio?”

16. Atebodd yntau, “Rwy'n ceisio fy mrodyr; dywed wrthyf ble maent yn bugeilio.”

17. A dywedodd y gŵr, “Y maent wedi mynd oddi yma, oherwydd clywais hwy'n dweud, ‘Awn i Dothan.’ ” Felly aeth Joseff ar ôl ei frodyr, a chafodd hyd iddynt yn Dothan.

Genesis 37