Genesis 36:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas.

12. Yr oedd Timna yn wraig ordderch i Eliffas fab Esau, ac i Eliffas esgorodd ar Amalec. Dyna ddisgynyddion Ada gwraig Esau.

13. Meibion Reuel oedd Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna ddisgynyddion Basemath gwraig Esau.

14. Dyma feibion Oholibama, merch Ana fab Sibeon, gwraig Esau: i Esau esgorodd ar Jeus, Jalam a Cora.

15. Dyma benaethiaid disgynyddion Esau: meibion Eliffas, mab hynaf Esau, y penaethiaid Teman, Omar, Seffo, Cenas,

16. Cora, Gatam ac Amalec. Dyna benaethiaid Eliffas yng ngwlad Edom; meibion Ada oeddent.

Genesis 36