Genesis 32:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. a gorchymyn iddynt, “Dywedwch fel hyn wrth f'arglwydd Esau: ‘Fel hyn y mae dy was Jacob yn dweud: Bûm yn aros gyda Laban, ac yno y bûm hyd yn awr;

5. y mae gennyf ychen, asynnod, defaid, gweision a morynion, ac anfonais i fynegi i'm harglwydd, er mwyn imi gael ffafr yn dy olwg.’ ”

6. Dychwelodd y negeswyr at Jacob a dweud, “Daethom at dy frawd Esau, ac y mae ef yn dod i'th gyfarfod gyda phedwar cant o ddynion.”

7. Yna daeth ofn mawr ar Jacob, ac yr oedd mewn cyfyngder; rhannodd y bobl oedd gydag ef, a'r defaid, ychen a chamelod, yn ddau wersyll,

Genesis 32