Genesis 31:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Felly cymerodd Duw anifeiliaid eich tad a'u rhoi i mi.

10. Yn nhymor beichiogi'r praidd codais fy ngolwg a gweld mewn breuddwyd fod yr hyrddod oedd yn llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc.

11. Yna dywedodd angel Duw wrthyf yn fy mreuddwyd, ‘Jacob.’ Atebais innau, ‘Dyma fi.’

12. Yna dywedodd, ‘Cod dy olwg ac edrych; y mae'r holl hyrddod sy'n llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc; yr wyf wedi gweld popeth y mae Laban yn ei wneud i ti.

13. Myfi yw Duw Bethel, lle'r eneiniaist golofn a gwneud adduned i mi. Yn awr cod, dos o'r wlad hon a dychwel i wlad dy enedigaeth.’ ”

14. Yna atebodd Rachel a Lea ef, “A oes i ni bellach ran neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad?

Genesis 31