Genesis 31:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Onid ydym ni'n cael ein cyfrif ganddo yn estroniaid? Oherwydd y mae wedi'n gwerthu, ac wedi gwario'r arian.

16. Yr holl gyfoeth y mae Duw wedi ei gymryd oddi ar ein tad, ein heiddo ni a'n plant ydyw; yn awr, felly, gwna bopeth a ddywedodd Duw wrthyt.”

17. Yna cododd Jacob a gosod ei blant a'i wragedd ar gamelod;

18. a thywysodd ei holl anifeiliaid a'i holl eiddo, a gafodd yn Padan Aram, i fynd i wlad Canaan at ei dad Isaac.

Genesis 31