Genesis 30:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Dywedodd Lea, “Y mae Duw wedi rhoi fy nhâl am imi roi fy morwyn i'm gŵr.” Felly galwodd ef Issachar.

19. Beichiogodd Lea eto, ac esgor ar y chweched mab i Jacob.

20. Yna dywedodd Lea, “Y mae Duw wedi rhoi imi waddol da; yn awr, bydd fy ngŵr yn fy mharchu, am imi esgor ar chwech o feibion iddo.” Felly galwodd ef Sabulon.

21. Wedi hynny esgorodd ar ferch, a galwodd hi Dina.

Genesis 30