Genesis 3:10-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Atebodd yntau, “Clywais dy sŵn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais.”

11. Dywedodd yntau, “Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio â bwyta ohono?”

12. A dywedodd y dyn, “Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau.”

13. Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, “Pam y gwnaethost hyn?” A dywedodd y wraig, “Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau.”

14. Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y sarff:“Am iti wneud hyn, yr wyt yn fwy melltigedigna'r holl anifeiliaid,ac na'r holl fwystfilod gwyllt;byddi'n ymlusgo ar dy dor,ac yn bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd.

15. Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig,a rhwng dy had di a'i had hithau;bydd ef yn ysigo dy ben di,a thithau'n ysigo'i sawdl ef.”

16. Dywedodd wrth y wraig:“Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a'th wewyr;mewn poen y byddi'n geni plant.Eto bydd dy ddyhead am dy ŵr,a bydd ef yn llywodraethu arnat.”

17. Dywedodd wrth Adda:“Am iti wrando ar lais dy wraig,a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono,melltigedig yw'r ddaear o'th achos;trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd.

18. Bydd yn rhoi iti ddrain ac ysgall, a byddi'n bwyta llysiau gwyllt.

19. Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta barahyd oni ddychweli i'r pridd,oherwydd ohono y'th gymerwyd;llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli.”

20. Rhoddodd y dyn i'w wraig yr enw Efa, am mai hi oedd mam pob un byw.

21. A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw beisiau crwyn i Adda a'i wraig, a'u gwisgo amdanynt.

22. Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw, “Edrychwch, y mae'r dyn fel un ohonom ni, yn gwybod da a drwg. Yn awr, rhaid iddo beidio ag estyn ei law a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw hyd byth.”

23. Am hynny anfonodd yr ARGLWYDD Dduw ef allan o ardd Eden, i drin y tir y cymerwyd ef ohono.

24. Gyrrodd y dyn allan; a gosododd gerwbiaid i'r dwyrain o ardd Eden, a chleddyf fflamllyd yn chwyrlïo, i warchod y ffordd at bren y bywyd.

Genesis 3