Genesis 26:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Aeth Isaac oddi yno i Beerseba.

24. Ac un noson ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo, a dweud, “Myfi yw Duw Abraham dy dad; paid ag ofni, oherwydd yr wyf fi gyda thi. Bendithiaf di ac amlhaf dy ddisgynyddion er mwyn fy ngwas Abraham.”

25. Felly adeiladodd yno allor, a galw ar enw'r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno.

26. Yna daeth Abimelech ato o Gerar, gydag Ahussath ei gynghorwr a Phichol pennaeth ei fyddin.

27. Gofynnodd Isaac iddynt, “Pam yr ydych wedi dod ataf, gan i chwi fy nghasáu a'm gyrru oddi wrthych?”

28. Atebasant hwythau, “Gwelsom yn eglur fod yr ARGLWYDD gyda thi; am hynny fe ddywedwn, ‘Bydded llw rhyngom’, a gwnawn gyfamod â thi,

Genesis 26