Genesis 24:57-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

57. Yna dywedasant, “Galwn ar y ferch, a gofynnwn iddi hi.”

58. A galwasant ar Rebeca, a dweud wrthi, “A ei di gyda'r gŵr hwn?” Atebodd hithau, “Af.”

59. Felly gollyngasant eu chwaer Rebeca a'i mamaeth, a gwas Abraham a'i ddynion,

60. a bendithio Rebeca, a dweud wrthi,“Tydi, ein chwaer, boed iti fyndyn filoedd o fyrddiynau,a bydded i'th ddisgynyddionetifeddu porth eu gelynion.”

61. Yna cododd Rebeca a'i morynion, a marchogaeth ar y camelod gan ddilyn y gŵr; felly cymerodd y gwas Rebeca a mynd ymaith.

62. Yr oedd Isaac wedi dod o Beer-lahai-roi ac yn byw yn ardal y Negef.

63. Pan oedd Isaac allan yn myfyrio yn y maes fin nos, cododd ei olygon i edrych, a gwelodd gamelod yn dod.

Genesis 24