Genesis 24:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. a pharaf iti dyngu i'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na chymeri wraig i'm mab o ferched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu plith,

4. ond yr ei i'm gwlad ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab Isaac.”

5. Dywedodd y gwas wrtho, “Efallai na fydd y wraig am ddod ar fy ôl i'r wlad hon; a fydd raid i mi fynd â'th fab yn ôl i'r wlad y daethost allan ohoni?”

6. Dywedodd Abraham wrtho, “Gofala nad ei â'm mab yn ôl yno.

Genesis 24