Genesis 23:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yna cododd Abraham ac ymgrymu i'r Hethiaid, pobl y wlad,

8. a dweud wrthynt, “Os ydych yn fodlon imi gladdu fy marw, gwrandewch arnaf, a deisyfwch trosof ar Effron fab Sohar

9. iddo roi imi ogof Machpela, sy'n eiddo iddo ac yng nghwr ei faes. Rhodded hi i mi am y pris llawn, imi gael hawl ar fedd yn eich plith.”

10. Yr oedd Effron yn eistedd gyda'r Hethiaid, a dywedodd wrth Abraham yng nghlyw'r Hethiaid a phawb oedd yn dod i mewn trwy borth ei ddinas,

11. “Na, f'arglwydd, gwrando arnaf; rhof y maes i ti yn ogystal â'r ogof sydd ynddo; yr wyf yn ei rhoi i ti yng ngŵydd fy mhobl; cladda dy farw.”

12. Yna ymgrymodd Abraham o flaen pobl y wlad,

Genesis 23