Genesis 22:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi'r pethau hyn, rhoddodd Duw brawf ar Abraham.

2. “Abraham,” meddai wrtho, ac atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna dywedodd, “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy'n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf iti.”

3. Felly cododd Abraham yn fore, cyfrwyodd ei asyn, a chymryd dau lanc gydag ef, a'i fab Isaac; a holltodd goed i'r poethoffrwm, a chychwynnodd i'r lle y dywedodd Duw wrtho.

4. Ar y trydydd dydd cododd Abraham ei olwg, a gwelodd y lle o hirbell.

5. Yna dywedodd Abraham wrth ei lanciau, “Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; mi af finnau a'r bachgen draw ac addoli, ac yna dychwelwn atoch.”

Genesis 22