Genesis 21:4-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. ac enwaedodd Abraham ei fab Isaac yn wyth diwrnod oed, fel yr oedd Duw wedi gorchymyn iddo.

5. Yr oedd Abraham yn gant oed pan anwyd iddo ei fab Isaac.

6. A dywedodd Sara, “Parodd Duw imi chwerthin; fe fydd pawb a glyw am hyn yn chwerthin gyda mi.”

7. Dywedodd hefyd, “Pwy fuasai wedi dweud wrth Abraham y rhoddai Sara sugn i blant? Eto mi enais fab iddo yn ei henaint.”

8. Tyfodd y bachgen, a diddyfnwyd ef; ac ar ddiwrnod diddyfnu Isaac, gwnaeth Abraham wledd fawr.

9. Ond gwelodd Sara y mab a ddygodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn chwarae gyda'i mab Isaac.

10. A dywedodd wrth Abraham, “Gyrr allan y gaethferch hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethferch hon gydetifeddu â'm mab i, Isaac.”

11. Yr oedd hyn yn atgas iawn gan Abraham o achos ei fab;

12. ond dywedodd Duw wrth Abraham, “Paid â phoeni am y llanc a'th gaethferch; gwna bopeth a ddywed Sara wrthyt, oherwydd trwy Isaac y cedwir dy linach.

13. Gwnaf fab y gaethferch hefyd yn genedl, am ei fod yn blentyn i ti.”

14. Yna cododd Abraham yn fore, a chymerodd fara a chostrel o ddŵr a'u rhoi i Hagar, a'u gosod hwy a'r bachgen ar ei hysgwydd, a'i hanfon ymaith. Aeth hithau i grwydro yn niffeithwch Beerseba.

15. Pan oedd y dŵr yn y gostrel wedi darfod, gosododd y bachgen i lawr dan un o'r llwyni,

16. ac aeth i eistedd bellter ergyd bwa oddi wrtho, gan ddweud, “Ni allaf edrych ar y bachgen yn marw.” Fel yr oedd yn eistedd bellter oddi wrtho, cododd y bachgen ei lais ac wylo.

17. Clywodd Duw lais y plentyn, a galwodd angel Duw o'r nef ar Hagar a dweud wrthi, “Beth sy'n dy boeni, Hagar? Paid ag ofni, oherwydd y mae Duw wedi clywed llais y plentyn o'r lle y mae.

18. Cod, cymer y plentyn a gafael amdano, oherwydd gwnaf ef yn genedl fawr.”

19. Yna agorodd Duw ei llygaid, a gwelodd bydew dŵr; aeth hithau i lenwi'r gostrel â dŵr a rhoi diod i'r plentyn.

Genesis 21