Genesis 21:30-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Dywedodd yntau, “Wrth gymryd y saith hesbin gennyf, byddi'n cydnabod mai myfi a gloddiodd y pydew hwn.”

31. Am hynny galwyd y lle hwnnw Beerseba, oherwydd yno yr aeth y ddau ar eu llw.

32. Wedi iddynt wneud cyfamod yn Beerseba, cododd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin, a dychwelyd i wlad y Philistiaid.

33. Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beerseba, a galwodd yno ar enw'r ARGLWYDD, y Duw tragwyddol.

34. A bu Abraham yn aros am amser hir yng ngwlad y Philistiaid.

Genesis 21