Genesis 20:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. ac yno dywedodd Abraham am ei wraig Sara, “Fy chwaer yw hi”; ac anfonodd Abimelech brenin Gerar am Sara, a'i chymryd.

3. Ond daeth Duw at Abimelech mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, “Fe fyddi farw o achos y wraig a gymeraist, oherwydd gwraig briod yw hi.”

4. Ond nid oedd Abimelech wedi nesáu ati; a dywedodd, “ARGLWYDD, a leddi di bobl ddiniwed?

5. Oni ddywedodd ef wrthyf, ‘Fy chwaer yw hi’, a hithau, ‘Fy mrawd yw ef’? Gwneuthum hyn â chydwybod dawel a dwylo glân.”

6. Yna dywedodd Duw wrtho yn y freuddwyd, “Mi wn iti wneud hyn â chydwybod dawel; cedwais innau di rhag pechu yn f'erbyn, a dyna pam na adewais iti ei chyffwrdd.

Genesis 20